Martin Luther King | |
---|---|
Llais | Martin Luther King, Jr. speaks about Barry Goldwater at a press conference at Amsterdam Airport Schiphol, August 1964 (audio from Polygoon).oga |
Ganwyd | Michael King Jr. 15 Ionawr 1929 Atlanta |
Bu farw | 4 Ebrill 1968 Memphis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gweinidog bugeiliol, pregethwr, ymgyrchydd hawliau sifil, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd heddwch, heddychwr, llenor, gwleidydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Reinhold Niebuhr, Howard Thurman, Walter Rauschenbusch, Henry David Thoreau, Mahatma Gandhi |
Dydd gŵyl | Martin Luther King Jr. Day |
Taldra | 168.9 centimetr |
Mudiad | mudiadau hawliau sifil, di-drais, undeb llafur yn UDA, mudiad Hawliau Sifil America |
Tad | Martin Luther King Sr. |
Mam | Alberta Williams King |
Priod | Coretta Scott King |
Plant | Yolanda King, Martin Luther King III, Dexter Scott King, Bernice King |
Perthnasau | Alveda King |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr Pacem in Terris, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Gwobrau Margaret Sanger, Time Person of the Year, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aur y Gyngres, Dyngarwr y Flwyddyn, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Spingarn, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra |
Gwefan | https://thekingcenter.org |
llofnod | |
Roedd Martin Luther King yr ieuengaf (15 Ionawr 1929 – 4 Ebrill 1968) yn weinidog ac actifydd Cristnogol o'r Unol Daleithiau a ddaeth yn llefarydd ac arweinydd mwyaf gweladwy'r Mudiad Hawliau Sifil o 1955 hyd at ei lofruddiaeth ym 1968. Mae King yn fwyaf adnabyddus am hyrwyddo hawliau sifil drwy ddulliau di-drais ac anufudd-dod sifil oedd wedi eu hysbrydoli gan ei gredoau Cristnogol a phrotestiadau di-drais Mahatma Gandhi.
Arweiniodd King foicot bysiau Montgomery yn 1955 ac yn ddiweddarach daeth yn llywydd cyntaf Cynhadledd Arweinyddiaeth Gristnogol y De (Southern Christian Leadership Conference). Fel llywydd y Gynhadledd, arweiniodd frwydr aflwyddiannus yn 1962 yn erbyn arwahanu yn Albany, Georgia, a helpodd i drefnu protestiadau di-drais 1963 yn Birmingham, Alabama. Bu hefyd yn cynorthwyo â threfniadau’r Orymdaith i Washington, ym mis Mawrth 1963, lle traddododd ei araith enwog Mae gen i freuddwyd (I have a dream) ar risiau Cofeb Lincoln.
Ar 14 Hydref 1964, enillodd King Wobr Heddwch Nobel am frwydro yn erbyn anghydraddoldeb hiliol drwy wrthwynebiad di-drais. Ym 1965, helpodd i drefnu'r gorymdeithiau o Selma i Montgomery. Yn ei flynyddoedd olaf, ehangodd ei ffocws i gynnwys gwrthwynebiad i dlodi, cyfalafiaeth, a Rhyfel Fietnam. Gwelwyd ef gan Gyfarwyddwr yr FBI, J. Edgar Hoover, yn unigolyn radical, a bu King yn destun trafod rhaglen gwrthgynhadledd yr FBI o 1963 ymlaen. Roedd King yn destun ymchwiliadau cyson i ysbïwyr yr FBI oherwydd ei gysylltiadau comiwnyddol honedig, a chofnodwyd ei berthnasau tu allan i'w briodas ac adroddwyd arnynt i swyddogion y llywodraeth. Ym 1964, derbyniodd King lythyr anhysbys bygythiol, a ddehonglwyd ganddo fel ymgais i wneud iddo gyflawni hunanladdiad.[1]
Pan gafodd ei lofruddio ar 4 Ebrill 1968, ym Memphis, Tennessee, roedd King yn trefnu ac yn cynllunio ‘meddiant cenedlaethol’ o Washington, D.C., a fyddai’n cael ei alw’n Ymgyrch y Bobl Dlawd. Yn dilyn ei farwolaeth, bu terfysgoedd yn llawer o ddinasoedd yr Unol Daleithiau. Parhaodd honiadau am ddegawdau ar ôl y saethu bod James Earl Ray, y dyn a gafwyd yn euog o ladd King, wedi cael ei fframio neu ei fod wedi gweithredu ar y cyd ag asiantaethau’r llywodraeth.
Wedi ei farwolaeth dyfarnwyd y Fedal Rhyddid Arlywyddol a’r Fedal Aur Gyngresol i King. Sefydlwyd Diwrnod Martin Luther King Jr. fel dydd gŵyl mewn dinasoedd a gwladwriaethau ledled yr Unol Daleithiau, gan ddechrau ym 1971; deddfwyd y gwyliau ar lefel ffederal gan ddeddfwriaeth a lofnodwyd gan yr Arlywydd Ronald Reagan ym 1986. Mae cannoedd o strydoedd yn yr Unol Daleithiau wedi cael eu hailenwi er anrhydedd iddo, ynghyd â sir yn Washington. Cysegrwyd Cofeb Martin Luther King Jr ar y Rhodfa Genedlaethol yn Washington D.C yn 2011.[2]